Beth sydd ymlaen
Beth sydd ymlaen
Mae digwyddiadau, gweithgareddau a chyrsiau Canolfan Tywi wedi'u rhestru isod. Os oes gennych weithgaredd penodol yr hoffech i ni i gyflawni, cysylltwch â ni ac efallai y byddwn yn gallu trefnu hynny ar eich rhan.
Atgyweirio Ffenestri Sash - Gwaith saer treftadaeth ymarferol
08/04/25- 10/04/25 Canolfan TywiMae'r cwrs wedi'i anelu at gyflwyno dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o'r technegau traddodiadol a fydd yn galluogi ymgeisydd i gynhyrchu ac atgyweirio ystod eang o gynhyrchion gwaith saer, trwy gyfuniad cytbwys o addysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithdy. Bydd ymgeiswyr yn gweithio ar brosiect adfer go iawn (er enghraifft atgyweirio ffenestri codi traddodiadol).
Caniatâd Adeilad Rhestredig: gwneud cais
30/04/2025 Ar leinMae'r cwrs hwn ar gyfer perchnogion adeiladau rhestredig sy'n ystyried gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Bydd yn rhoi amlinelliad o'r broses ganiatâd, gan gynnwys pan fo angen cael caniatâd i wneud newidiadau i'ch adeilad rhestredig; egluro dogfennau allweddol y cais a thrafod y manyldeb a'r safon sydd eu hangen; a bydd yn eich helpu i ddewis gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu ac yn eich cyfeirio at wybodaeth ychwanegol.
Ffenestri traddodiadol - arolygon a chynhyrchu adroddiadau cyflwr
15/04/2025 Canolfan TywiBydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu i gynnal arolygon cyflwr ar ffenestri hanesyddol a phenderfynu ar faint o waith atgyweirio sydd ei angen arnynt. Bydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn cwmpasu: arwyddocâd ffenestri hanesyddol; y cydrannau; adnabod pydredd a'i achosion; lluniadu proffiliau; cydnabod maint y gwaith atgyweirio sydd ei angen; nodi defnyddiau a gorffeniadau; ac ysgrifennu arolygon cyflwr.
Atgyweirio Ffenestri Sash - Gwaith saer treftadaeth ymarferol
03/06/25 - 05/06/25 Canolfan TywiMae'r cwrs wedi'i anelu at gyflwyno dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o'r technegau traddodiadol hynny a fydd yn galluogi ymgeisydd i gynhyrchu ac atgyweirio ystod eang o gynhyrchion gwaith saer, trwy gyfuniad cytbwys o addysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithdy. Bydd ymgeiswyr yn gweithio ar brosiect adfer go iawn (er enghraifft atgyweirio ffenestri codi traddodiadol).