Address
Canolfan Tywi
Fferm Dinefwr
Llandeilo
Sir Gar
SA19 6RT
Phone
Nell 07929770732/ Helena 07929770743/ 01558 824271
Cyfarwyddiadau
Mae Canolfan Tywi wedi’i lleoli yn Fferm Dinefwr ym Mharc Dinefwr ar gyrion Llandeilo. Fodd bynnag, ni allwch gyrraedd y Ganolfan trwy fynd i mewn i’r parc trwy’r brif fynedfa i Dŷ Newton a Chastell Dinefwr.
O’R A40 ar ffordd osgoi Llandeilo
- Ar y gyffordd groesgam (sydd ag arwydd yn dynodi White Hart Inn / Parc Dinefwr / Llandeilo) trowch i’r dde i mewn i Heol Caerfyrddin.
- Cymerwch y tro cyntaf ar y Dde (sydd ag arwydd yn dynodi Dim Ffordd Drwodd). Yr hen A40 yw hon.
- Fferm Dinefwr yw’r ail grŵp o adeiladau ar y Chwith
- Parciwch yn y Maes Parcio ar y Chwith a dilynwch y llwybr at Ganolfan Tywi trwy’r porth bwaog.
- Maes Parcio Gorlif ar y dde
- O dref Llandeilo
- Ewch heibio’r brif fynedfa i Barc Dinefwr ar y chwith
- Ar ôl cae rygbi Cae William (ar y chwith) a’r White Hart Inn (ar y dde), trowch i’r Chwith (sydd ag arwydd yn dynodi Dim Ffordd Drwodd)
- Fferm Dinefwr yw’r ail grŵp o adeiladau ar y Chwith
- Parciwch yn y Maes Parcio ar y Chwith a dilynwch y llwybr at Ganolfan Tywi trwy’r porth bwaog.
- Maes Parcio Gorlif ar y dde