A yw Adeiladau Traddodiadol yn Gynaliadwy?

July 2024

A yw Adeiladau Traddodiadol yn Gynaliadwy: Strwythurau Traddodiadol ac Effeithlonrwydd Ynni

Gyda phwnc newid hinsawdd yn cael lle blaenllaw ym mhob sgwrs fyd-eang, mae cynaliadwyedd yn bryder allweddol ar draws amrywiol sectorau, yn enwedig ym maes adeiladu!  Un cwestiwn sy'n aml yn codi yw beth yw gwir gyfraniad ein strwythurau traddodiadol at newid hinsawdd.  A ddylai ein hen adeiladau sy'n gollwng gael eu bwrw lawr ac a ddylid adeiladu rhai newydd sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon yn eu lle?

 

Beth sy'n gwneud Adeiladau Traddodiadol yn wahanol?

Mae adeiladau traddodiadol, wedi'u hadeiladu â deunyddiau lleol gan ddefnyddio dulliau a drosglwyddwyd o un genhedlaeth i'r llall, yn aml yn adlewyrchu cyd-destun amgylcheddol a diwylliannol eu cyfnod. Mae deunyddiau lleol fel carreg, pren a chalch yn aml yn cael effeithiau amgylcheddol is o lawer o gymharu â deunyddiau adeiladu modern: Cynlluniwyd yr adeiladau yn unol â'r amgylchoedd, gan ddefnyddio awyru naturiol, màs thermol, ac fe'u lleolwyd yn rheolaidd i fanteisio ar dopograffeg leol ac amodau tywydd i wella cysur ac effeithlonrwydd.

 

Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Traddodiadol

Un o'r gwahaniaethau mwyaf nodedig rhwng adeiladau traddodiadol ac adeiladau mwy modern yw sut y maent yn rheoli gwres ac awyru.

Màs Thermol: Mae waliau trwchus wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau fel carreg a brics yn amsugno gwres yn ystod y dydd ac yn ei ryddhau'n araf yn y nos, gan helpu i reoleiddio tymheredd dan do yn naturiol.

Awyru Naturiol: Yn aml mae gan adeiladau traddodiadol nodweddion fel nenfydau uchel, lleoedd tân a simneiau a ffenestri codi llithrol sy'n hyrwyddo awyru effeithlon, gan leihau'r angen am systemau oeri artiffisial.

Inswleiddio: Mae cadw waliau adeiladau traddodiadol yn sych yn allweddol i'w cadw'n gynnes.  Mae defnyddio deunyddiau inswleiddio anwedd agored neu ‘anadladwy’ yn hanfodol er mwyn osgoi lleithder yn y waliau. Mae deunyddiau inswleiddio fel gwlân, cywarch, ffibr pren a chorc yn effeithiol wrth gadw adeiladau'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf.

 

Sut y gall Ôl-ffitio helpu?

Er bod gan adeiladau traddodiadol nodweddion cynaliadwy cynhenid, gallant elwa'n sylweddol o osod mesurau arbed ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy (ôl-ffitio).  Mae rhai arferion ôl-ffitio cyffredin sy’n addas ar gyfer adeiladau traddodiadol yn cynnwys:

Uwchraddio Inswleiddio: Ychwanegu deunyddiau insiwleiddio anwedd agored neu ‘anadladwy’ i atigau a thoeau neu insiwleiddio mewnol neu allanol gyda chywarch solet neu blastr calch corc i leihau colli gwres. 

Gwydro Effeithlon: Gosod gwydr eilaidd ar ffenestri i wella perfformiad thermol.

Systemau Ynni Adnewyddadwy: Integreiddio paneli solar, pympiau gwres, neu foeleri biomas i leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil.

 

Pwysigrwydd Cynnal a Chadw

Yr allwedd i wella effeithlonrwydd ynni mewn unrhyw adeilad yw sicrhau ei fod yn gweithio'n dda. Os yw gwteri wedi torri, peipiau dŵr ar goll, simneiau'n gollwng, a'r waliau'n llaith, dim ond hyn a hyn o ynni ac arian fydd yn cael eu harbed o osod mesurau ôl-ffitio.

 

'Yr adeilad gwyrddaf yw'r un sydd eisoes yn bodoli'

Mae llawer iawn o waith ynghlwm wrth adeiladu adeilad felly mae ei ddymchwel yn wastraff. Manteisiwch ar eu màs thermol mewnol a’u nodweddion awyru, ewch ati i'w cynnal a’u cadw a defnyddio mesurau ôl-osod priodol fel y gall ein hadeiladau traddodiadol barhau i fod yn iach i fyw ynddynt.

 

Dal yn awyddus i ddysgu mwy? Darllenwch ein hadroddiad diweddar ar effeithlonrwydd ynni o fewn strwythurau hŷn yma