Mae gwaith adnewyddu yn Hen Blas yr Esgob a'r Gerddi yn Abergwili wedi bod yn parhau drwy gydol y pandemig gydag Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn a Chyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio i ddod â bywyd newydd i un o drysorau Sir Gaerfyrddin.
Roedd yr Hen Blas sef cartref Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ers 1978, yn gartref i esgobion Tyddewi am fwy na 400 mlynedd. Er iddo gael ei ddinistrio gan dân ym 1903, cafodd ei adnewyddu'n helaeth mewn arddull Celf a Chrefft ac mae bellach yn un o'r enghreifftiau gorau o'r cyfnod hwn o bensaernïaeth yng Nghymru.
Drwy gydol 2020, mae'r Cyngor Sir wedi bod yn ymgymryd â cham cyntaf rhaglen adfer helaeth yn yr amgueddfa ynghyd â gwelliannau hygyrchedd wrth y brif fynedfa, yn ogystal â gwaith adnewyddu mewnol ychwanegol i'r orielau sy'n cael ei ariannu gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Ar yr un pryd, mae Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn wedi dechrau ar y gwaith o droi'r adeiladau allanol yn gaffi a chanolfan dysgu a dehongli newydd. Mae'r Ymddiriedolaeth, a sefydlwyd yn 2016 i "hyrwyddo er budd y cyhoedd, ym Mharc yr Esgob a’i leoliad diwylliannol yn Abergwili, y gwaith o warchod, diogelu, gwella a deall yr amgylcheddau adeiledig a naturiol", yn cyflawni prosiect Parciau i Bobl gwerth £2.4m drwy adfer y tiroedd hanesyddol. Mae adfer y safle yn enghraifft wych o sgiliau adeiladu traddodiadol ar waith, gan gadw lleoliad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae creu'r caffi a'r ganolfan ddehongli yn rhan o'r rhaglen ehangach o adfer a gwella Parc yr Esgob a reolir gan Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn i warchod ac adfer y parc a'r gerddi i gyd-fynd â'r cyfnod pan gafodd gwaith ailddylunio mawr ei gyflawni ddiwethaf yn y 1840au. Mae hyn yn cynnwys gosod gerddi newydd, ailwampio'r ardd gegin furiog ddeniadol a chreu mynediad cyhoeddus newydd i'r Ddôl Fawr gyfagos, a fydd yn cael ei rheoli er budd y ddôl gorlifdir sy'n gynefin prin. Bydd y prosiect hefyd yn gwarchod ystumllyn Pwll yr Esgob sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae tîm Treftadaeth Adeiledig y Cyngor yn falch o fod wedi gallu cefnogi Tîm Eiddo'r Cyngor gyda'r broses Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer y datblygiad helaeth hwn, ac maent hefyd yn bwriadu gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth i atgyweirio rhai o'r ffenestri hanesyddol fel rhan o'r cwrs hyfforddi NVQ Gwaith Coed Treftadaeth.
Os hoffech gadw mewn cysylltiad â'r datblygiadau hyn, neu os hoffech wirfoddoli neu fwynhau'r parcdir newydd, gallwch ymweld â gwefan Drws i'r Dyffryn: tywigateway.org.uk/cy neu ddilyn y cyfan ar facebook @tywigateway.