CWRS MASNACHWR PASSIVHAUS: 10 & 11 GORFENNAF

10-11 July

Mae Canolfan Tywi yn falch iawn o gyhoeddi y bydd CWIC yn defnyddio ein canolfan i gyflwyno eu cwrs Passivhaus Tradesperson poblogaidd iawn.

Maen nhw’n gallu cynnig cyfle i 20 o weithwyr adeiladu proffesiynol sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin uwchsgilio ym maes adeiladu ynni isel a darganfod dull profedig gwneuthuriad yn gyntaf ar yr hyfforddiant hwn sydd wedi’i ariannu’n llawn.

Gan weithio gyda’n partneriaid hyfforddi, Coaction Training CIC (coaction.org.uk) byddwch yn cael y cyfle i ddysgu sut i gyflawni'r safon Passivhaus ar y safle gan ymarferwyr sydd ar flaen y gad ym maes adeiladu a dylunio ynni isel yn y DU. Gellir cymhwyso'r dysgu hanfodol hwn i unrhyw brosiect ynni isel, nid contractau Passivhaus yn unig.


Ar gyfer pwy y mae'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs ar gyfer pobl sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n cynnwys y rolau swyddi canlynol:

  • Contractwyr,
  • Timau Dylunio a Chyn-adeiladu
  • Syrfewyr Meintiau
  • Rheolwyr Prosiectau
  • Clercod Gwaith
  • Uwch-dimau Rheoli,
  • Goruchwylwyr Safleoedd.
  • Arolygwyr Adeiladau

 

Beth yw Passivhaus?
Mae adeiladau'r DU yn gyfrifol am 25% o'n hallyriadau carbon. Passivhaus yw eich pecyn cymorth i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, dull profedig o dorri’r defnydd o ynni adeiladau yn ogystal â chyflawni safonau uchel ar gyfer cysur ac iechyd preswylwyr.

Mae Passivhaus yn safon y mae gofyn iddi fodloni 5 prif egwyddor.

  1. Inswleiddiad o ansawdd uchel.
  1. Rheoli gwres a ffenestri cadarn
  1. Adeiladwaith aerglos.
  1. Awyriad adfer gwres.
  1. Dyluniad di-bont thermol.

I gael trosolwg byr ac i weld adnoddau pellach, rydym yn argymell eich bod yn mynd i wefan y The Passivhaus Trust. 

Beth y bydd y cwrs yn ei gwmpasu?
Byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Deall beth y mae'r safon Passivhaus yn ei olygu.
  • Archwilio'r agweddau hanfodol ar gyfer cyflawni Passivhaus, gan gynnwys inswleiddio, gwydro perfformiad uchel, aerglosrwydd, pontydd thermol ac awyriad
  • Y modd i sicrhau bod ansawdd yn cael ei ddarparu ar y safle.

Eich taith ddysgu

Mae’r addysgu’n cael ei arwain gan un o’n hyfforddwyr profiadol Coaction Passivhaus.

Ar gyfer cwrs mis Gorffennaf eich hyfforddwr fydd Eric Fewster a fydd yn rhannu ei brofiad o fynd i’r afael â materion go iawn yn sector Passivhaus.

Mae'r cwrs personol hwn wedi'i strwythuro'n gyfres o fodiwlau i gyfeirio eich dysgu trwy agweddau hanfodol Passivhaus, gan addysgu'r theori y tu ôl i ddull Passivhaus gyda rhai ymarferion ymarferol ar hyd y ffordd.

Diwrnod 1 Cyflwyniad i Passivhaus, Egwyddorion Passivhaus, y Broses Sicrhau Ansawdd, Damcaniaeth Aerglosrwydd, Aerglosrwydd ar Waith

Diwrnod 2 Damcaniaeth Insiwleiddio, Damcaniaeth Pontydd Thermol, Damcaniaeth Ffenestri, Damcaniaeth y Gwasanaethau Adeiladu, Sicrhau Ansawdd Prosesau a'r Safle

Camau nesaf dewisol:
Bydd pawb sy'n dilyn y cwrs yn cael y cyfle i sefyll arholiad Crefftwyr Ardystiedig Passivhaus ar y diwedd ac ennill y Sêl Crefftwyr hon a gydnabyddir yn rhyngwladol, a hynny am ffi o £375.00 heb TAW.

Sylwch nad yw hyn wedi'i gynnwys yng nghyllid y cwrs. Bydd dyddiad yr arholiad yn cael ei gadarnhau yn fuan.

Sut y mae gwneud cais?

Mae cyllid ar gyfer lleoedd ar y cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a'i gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae cyllid ar gyfer lleoedd ar y cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a'i gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

We have a maximum of 20 spaces available on this course.

To apply please complete the APPLICATION FORM

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Julie Evans or call 01792 481 273.