Mae Nigel Gervis, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Technegol Tŷ Mawr Lime Ltd yn ôl oherwydd galw mawr i siarad yn ein Ffair Adeiladau Cynaliadwy a Thraddodiadol ar Fai 11eg. Mae Nigel wedi darparu sgyrsiau, cyflwyniadau, gweithdai a chyngor yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Canolfan Tywi dros y 15 mlynedd diwethaf. Bob tro, mae ei gynulleidfa wedi’i swyno a’i hysgogi i ddefnyddio’r deunyddiau mwyaf priodol wrth wneud gwelliannau i’w cartrefi.
Sefydlwyd Tŷ Mawr Lime Ltd. yn 1995, gan ŵr a gwraig - Nigel a Joyce Gervis. Mae Ty-Mawr Lime Ltd wedi gwneud cyfraniad enfawr i atgyfodi’r defnydd o ddeunyddiau adeiladu traddodiadol yng Nghymru ac wedi dod yn arweinydd yn y farchnad o ran dylunio, gweithgynhyrchu a dosbarthu deunyddiau a systemau adeiladu ecogyfeillgar. Maent wedi derbyn nifer o wobrau am eu gwaith yn y maes hwn.
Bydd cyflwyniad Nigel yn edrych ar y rôl sydd gan ddeunyddiau adeiladu cynaliadwy wrth fynd i’r afael â’n hangen i leihau Ôl Troed Carbon adeiladu. Gellir defnyddio deunyddiau adeiladu naturiol a chynaliadwy, mewn adeiladau newydd a hanesyddol, i wella effeithlonrwydd ynni a ‘cloi i mewn’ carbon a bydd Nigel yn edrych ar yr ystod o ddeunyddiau a dulliau a all chwarae rhan mewn sicrhau bod ein hadeiladau yn rhan o dyfodol cynaliadwy i Gymru.
I archebu eich tocyn rhad ac am ddim ar gyfer ein Ffair Adeiladau cynaliadwy a Thraddodiadol cliciwch yma