Mae dyddiad wedi'i bennu ar gyfer y ffair adeiladau rhestredig sy'n cael ei threfnu gan Ganolfan Tywi, sef canolfan hyfforddiant ac addysg sgiliau adeiladu traddodiadol Cyngor Sir Caerfyrddin.
Daeth dros 250 o fynychwyr i'r Ffair Adeiladau Rhestredig gyntaf 2 flynedd yn ôl. Mae'r digwyddiad cyffrous hwn yn addo bod hyd yn oed yn fwy ac yn well! Cewch gyfle i gwrdd ag arbenigwyr adeiladau hanesyddol gyda'i gilydd yn y Canolfan Tywi, gan gynnwys Swyddogion Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin, penseiri, syrfewyr, contractwyr ac arbenigwyr crefft. Unwaith eto, byddant wrth law, drwy gydol y dydd, i gynnig cyngor a gwybodaeth yn ymwneud â'ch holl anghenion adeiladau hanesyddol.
Yn y digwyddiad hwn byddwch yn gallu: gwrando ar sgyrsiau addysgiadol am brosiectau adnewyddu, arbed ynni, y broses o gael caniatâd adeilad rhestredig ymhlith pynciau eraill; trafod eich anghenion adeiladu hanesyddol penodol; siarad â darpar grefftwyr arbenigol a allai eich helpu i gyflawni eich prosiect.
Mae'r Ffair yn rhad ac am ddim ac mae ar agor rhwng 10:00 a 4:30 ddydd Sadwrn 7 Mai 2022
Ymunwch â ni yn y Canolfan Tywi, Fferm Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin SA19 6RT.
I gael eich tocyn am ddim cofrestrwch yma. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost i canolfantywicentre@sirgar.gov.uk