Archwiliwch y cyfle unigryw a ddarperir gan ein rhaglen Sgiliau Cymhwysol Arbenigol, mewn cydweithrediad â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), gan gynnig hyfforddiant arbenigol ochr yn ochr ag aseswyr profiadol i ennill cymhwyster NVQ3 Gwaith Saer Treftadaeth.
Wedi'i deilwra ar gyfer gweithwyr adeiladu proffesiynol sy'n ceisio gwella eu sgiliau, mae'r rhaglen hon yn sicrhau cyflawni cymhwyster hyfforddi cydnabyddedig. Ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u cofrestru gyda CITB, mae grantiau posibl ar gael, gan dalu costau hyfforddi ac asesu, cynorthwyo gyda theithio a llety, a rhoi cymorth o ran treuliau oddi ar y safle. Os nad yw'ch cwmni wedi'i gofrestru gyda CITB, mae opsiynau hunanariannu hefyd ar gael er hwylustod i chi.
Mae'r hyfforddiant yn para 20 diwrnod oddi ar y safle, gydag amserlen o hyd at 18 mis i gwblhau'r cymhwyster. Mae ein hyfforddiant hyblyg yn eich galluogi i benderfynu a hoffech ddilyn hyfforddiant yn unig, rhaglen asesu (OSAT) yn unig neu ddilyn yr hyfforddiant a'r asesiad.
Darllenwch ymlaen i gael rhagor o fanylion a gwyliwch y fideo isod sy'n arddangos mewnwelediadau gan gyflogwyr a dysgwyr.
Beth yw NVQ?
Mae NVQ, neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, yn gymhwyster seiliedig ar waith sy'n asesu cymhwysedd a sgiliau unigolyn mewn swydd benodol. Mae'n canolbwyntio ar brofiad ymarferol ac yn pwysleisio cymhwyso gwybodaeth mewn amgylchedd gwaith go iawn.
Mae Cymwysterau Galwedigaethau Cenedlaethol ar gael ar draws amrywiol ddiwydiannau ac fe'u cyflawnir fel arfer drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith, asesiadau seiliedig ar waith, a chyflwyniadau portffolio. Mae'r cymwysterau hyn wedi'u cynllunio i wella datblygiad proffesiynol, dilysu sgiliau ymarferol, a chyfrannu at weithlu medrus a chymwys.
Beth yw elfennau NVQ Gwaith Saer Treftadaeth?
Mae nifer o fodiwlau sy'n rhan o'r cwrs NVQ3 Gwaith Saer Treftadaeth, sef:
- Saernïaeth yn y gweithdy ac ar y safle
- Atgyweirio fframwaith pren trwm
- Technegau Gwaith Saer Arbenigol
- Cadw neu adfer cynnyrch o bren
- Adnabod pensaernïaeth
- Gwybodaeth am ddeunyddiau a'r gallu i'w clustnodi
- Nodi diffygion- yr achos a'r effaith
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynghylch cadwraeth a dealltwriaeth ohono
Sylwadau gan eraill
David Walker
Yr unigolyn a deithiodd bellaf i gofrestru ar ein cyrsiau yw David Walker. Dewisodd David ddilyn NVQ3 mewn Gwaith Saer Treftadaeth, gan gydnabod cyfle marchnad ar gyfer adfer ffenestri codi llithrol a gwaith coed traddodiadol yn ei dref yn Ardal y Llynnoedd, wrth i'r defnydd o uPVC gynyddu'n gyflym.
Rhannodd David:
“Mae'r cwrs wedi bod yn amhrisiadwy, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol, ac rwyf wedi dysgu cymaint. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar hen eiddo Fictoraidd, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r cwrs. Rhoddodd CITB gymorth i mi, gan dalu cyfran sylweddol o'r costau hyfforddi.”
Angelo Aviles (AGA Conservation)
Roedd Angelo eisoes yn saer profiadol a phenderfynodd uwchsgilio ac ychwanegu agwedd arall at ei sgiliau.
Wrth siarad am y cwrs, dywedodd Angelo:
“Roeddwn i'n meddwl bod y cwrs yn wych. Yn bennaf achos y tiwtor, a oedd yn wybodus iawn. Roeddwn i yng nghanol trwsio ffenestri codi pan glywais am y cwrs drwy LinkedIn. O'r ychydig ddyddiau cyntaf dysgais ddulliau a thechnegau gwerthfawr, fel dysgu gwaith atgyweirio fframiau pren, nad wyf wedi'u gwneud hyd yn hyn yn fy ngyrfa. Wedyn roeddwn i'n teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny fy hun, ac rwy'n gweithio ar drwsio ffrâm bren ar hyn o bryd.
“Mae meddu ar y wybodaeth hon yn fy ngosod ar wahân i seiri eraill ac yn caniatáu i mi ymgymryd â gwaith na fyddai eraill yn ei wneud. Nid yw'n ymwneud â dysgu'r sgiliau yn unig, mae hefyd yn ymwneud â bod â'r awydd i helpu i gadw a chynnal yr adeiladau treftadaeth hyn.”
Mark Dutton
Llwyddodd Mark i gael cyllid gan ReAct Plws i dalu rhai costau o'i hyfforddiant. Mae hwn yn opsiwn arall ar y cwrs, gan fod rhai yn fasnachwyr annibynnol nad oes ganddynt fynediad at gyllid CITB o bosibl.
Yn y diwydiant adeiladu sy'n esblygu'n barhaus, mae dilyn cymwysterau arbenigol yn allweddol i aros yn berthnasol a ffynnu mewn sectorau arbenigol fel adeiladu treftadaeth. Mae'r NVQ3 mewn sgiliau adeiladu treftadaeth nid yn unig yn rhoi hwb i gyrfaoedd unigol ond mae hefyd yn chwarae rhan ganolog yn y genhadaeth ehangach o warchod a diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog am genedlaethau i ddod.
I gofrestru eich diddordeb, ac am ragor o fanylion, ewch i dudalen benodol y cwrs yma, a llenwch y ffurflen gyswllt.