Mae wedi bod yn hynod o bwysig i ni yng Nghanolfan Tywi barhau i ddarparu ein cyrsiau wedi'u hariannu a'n hachredu wrth sicrhau diogelwch pawb a dilyn canllawiau'r Llywodraeth.
Cliciwch yma i ddarganfod sut mae pedwar aelod o dîm TG Williams Builders wedi dechrau ar eu taith i gyflawni NVQ Lefel 3 mewn Plastro ym maes Treftadaeth a chael eu Cardiau Aur Treftadaeth CSCS.
Mae TG Williams Builders yn gwmni teuluol sydd ag enw da am ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae'n datblygu portffolio treftadaeth a chadwraeth sylweddol ochr yn ochr â'i waith adeiladu cyffredinol a chontractio masnachol.
Mae hyfforddiant a datblygiad staff yn bwysig i'r cwmni ac felly penderfynwyd cefnogi pedwar aelod o'i weithlu i gyflawni NVQ Lefel 3 mewn Plastro ym maes Treftadaeth. Gan ei fod yn gwmni sydd wedi'i gofrestru â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, caiff yr hyfforddiant ei ariannu'n llawn a'i gefnogi ymhellach gyda grantiau cyfnod byr a chwblhau.
Gan fod tri o'r dysgwyr yn dod o'r un swigen deuluol a'u bod i gyd ffurfio swigen gwaith, roedd modd cynnal yr hyfforddiant cychwynnol yn ddiogel ac yn unol â'r canllawiau.
I gael gwybod sut y gall eich cwmni elwa ar hyfforddiant a ariennir gan y Ganolfan Tywi, cliciwch yma.