Ble gwell i ddysgu am Atgyweirio a Chynnal a Chadw Adeiladau Traddodiadol na'r adeilad rhestredig Gradd II* Neuadd Hopwood ger Manceinion?
Mae Canolfan Tywi wedi mynd â'u hyfforddiant arloesol, achrededig ar daith yr wythnos hon. Diolch i Sefydliad Hamish Ogston, rydym wedi cael y fraint o ddarparu hyfforddiant i’w prentisiaid sgiliau adeiladu treftadaeth ochr yn ochr â gweithwyr Historic England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Choleg Sheffield ymhlith sefydliadau eraill.
Mae Rhaglen Sgiliau Adeiladu Treftadaeth Sefydliad Hamish Ogston yn helpu i sicrhau bod y sgiliau crefft sydd eu hangen i atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau hanesyddol yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Mae eu mentrau nid yn unig yn cynyddu cyfleoedd goroesi adeiladau hanesyddol unigryw'r byd, ond hefyd yn rhoi sgiliau i bobl ifanc sy'n sicrhau cyfleoedd cyflogaeth gydol oes.
Mae adeiladau godidog fel Neuadd Hopwood yn enghreifftiau da o pam mae dirfawr angen sgiliau arbenigol. Yn dyddio’n ôl i tua’r 1420au, aeth yr adeilad i adfail yn y 1980au. Mae’n cael ei adfer i’w hen ogoniant ar hyn o bryd diolch i waith Hopwood DePree, Historic England a Chyngor Rochdale. Rhagwelir y bydd Neuadd Hopwood yn ailagor yn 2026 fel canolbwynt digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. I wneud hyn yn bosibl, bydd angen llawer o grefftwyr medrus.
Mae hen adeiladau yn dyst i dapestri cyfoethog ein hanes, diwylliant a chrefftwaith. Fodd bynnag, gall esgeulustod a threigl amser achosi difrod strwythurol a dirywiad, gan beryglu eu bodolaeth. Nod y cwrs Dyfarniad Lefel 3 atgyweirio a chynnal a chadw a gynigir gan Ganolfan Tywi yw mynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol, gan hyrwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gadwraethwyr i ddiogelu'r strwythurau hyn.
Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod amrywiol o bynciau, gan sicrhau bod cyfranogwyr yn cael hyfforddiant cynhwysfawr mewn methodolegau atgyweirio a chynnal a chadw. O ddeall technegau adeiladu hanesyddol i arferion cadwraeth cynaliadwy, mae mynychwyr yn cael mewnwelediad gwerthfawr i'r grefft o adfer. Mae arddangosiadau ac astudiaethau achos go iawn yn cyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach.
Trwy rymuso unigolion gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i adfer a chynnal y strwythurau hyn, rydym yn sicrhau bod eu harddwch a'u harwyddocâd yn parhau am genedlaethau i ddod. Trwy’r ymdrech gyfunol hon, gallwn ddathlu ein gorffennol tra’n cofleidio dyfodol cynaliadwy sydd wedi’i wreiddio yn ein treftadaeth ddiwylliannol.