O ganlyniad i bartneriaeth a ddatblygwyd rhwng Ymddiriedolaeth Waliau Tref Penfro, Coleg Sir Benfro a Chanolfan Tywi, mae naw o ddysgwyr Bricsio Lefel 1 wedi bod yn dilyn cwrs adeiladu treftadaeth ugain wythnos i gefnogi eu dysgu.
Ariannwyd y cwrs Sgiliau Adeiladu Treftadaeth Sylfaenol gan Ymddiriedolaeth Waliau Tref Penfro trwy HLF a'i gynnig i fyfyrwyr gosod brics yn y Coleg a oedd am ymestyn eu sgiliau.
Nid yw'r cwricwlwm cyfredol ar gyfer bricwyr yn cynnwys unrhyw gynnwys sy'n ymwneud â deunyddiau neu ddulliau adeiladu traddodiadol. Codwyd o leiaf 30% o adeiladau Sir Benfro cyn 1919.
Dywedodd Howard Rudge, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Waliau Tref Penfro, “Nod yr hyfforddiant yw creu llwybrau ar gyfer myfyrwyr adeiladu i mewn i grefftau treftadaeth a chymwysterau pellach yn y maes hwn. Ar hyn o bryd mae prinder pobl â chymwysterau a sgiliau priodol i weithio ar ein hasedau treftadaeth adeiledig gan gynnwys Waliau Tref Penfro. Rydyn ni’n gobeithio gallu parhau i gefnogi a datblygu’r hyfforddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod. ”
Mae Canolfan Tywi yn sefydliad hyfforddi sgiliau traddodiadol wedi'i leoli yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin sy'n darparu hyfforddiant ac addysg ar bob lefel sy'n ymwneud â'n treftadaeth adeiledig.
Dywedodd Helena Burke, y Swyddog Sgiliau Treftadaeth a Phrosiect ar gyfer Sir Gaerfyrddin yng Nghanolfan Tywi, “Mae'r myfyrwyr wedi elwa o'r cyfle i ddysgu am adeiladau traddodiadol ochr yn ochr â'u hyfforddiant gwaith brics. Cawsant gyfle i gwrdd â llawer o bobl o'r diwydiant treftadaeth gan roi mewnwelediad ac ysbrydoliaeth i gyfleoedd gyrfa posibl. Fe wnaethant ddysgu sut i weithio gydag ystod o ddeunyddiau traddodiadol gan gynnwys gwahanol gategorïau o forterau calch ac ystod o fathau o gerrig a brics, ac am ddiffygion adeiladau ac effeithiau posibl defnyddio deunyddiau amhriodol i atgyweirio adeiladau traddodiadol. ”
O ganlyniad i'r cwrs hwn, mae'r dysgwyr wedi gallu rhoi eu sgiliau a'u gwybodaeth newydd ar waith ar safle adeiladu go iawn, i brofi gweithio ar strwythur rhestredig a gwerthfawrogi pwysigrwydd ei amddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Roedd y profiad safle yn gyfle i ymarfer gweithio'n ddiogel, gweithio fel tîm a deall effaith amgylcheddol bosibl gwaith adeiladu.
Daeth y myfyrwyr i Benfro ar 26 Chwefror i edrych ar y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Waliau Tref Penfro wedi'i wneud ac y mae'n bwriadu ei wneud i adfer y waliau, ac i dderbyn eu tystysgrifau.