Dyfarniad lefel 3 Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol - Calon Sir Benfro
Haverhub, Yr Hen Swyddfa Bost 12 Stryd y Cei, Hwlffordd SA61 1BG
18-19 Tachwedd 2024
Dim tâl i bobl o Sir Benfro a'r RhanbarthProsiect Calon Sir Benfro
Mae Canolfan Tywi yn darparu'r cwrs achrededig hwn ar ran Prosiect Calon Sir Benfro. Mae Prosiect Calon Sir Benfro wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU sy'n eu galluogi i gynnig y cwrs hwn yn rhad ac am ddim i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro a'r Rhanbarth.
Mae'r cwrs achrededig hwn yn ychwanegiad anhepgor at bortffolio DPP unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu neu adeiladu treftadaeth. Drwy enghreifftiau damcaniaethol ac ymarferol, mae'r cwrs yn cwmpasu'r meysydd gwybodaeth mwyaf hanfodol sy'n ofynnol cyn gweithio ar hen adeiladau. Mae'r tiwtoriaid gwybodus a phrofiadol yn defnyddio astudiaethau achos a dangosiadau ymarferol i alluogi ymgeiswyr i roi eu dysgu mewn cyd-destun bywyd go iawn.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant eiddo, adeiladu neu adeiladu treftadaeth gan gynnwys Contractwyr, Nodi Manylebion, Cynnal a Chadw Eiddo a Dylunio, Pensaernïaeth, Peirianwyr, Asiantau Cynllunio ac Arolygwyr Adeiladu.
Yn ystod y cwrs 2 ddiwrnod byddwn yn cwmpasu'r pynciau canlynol:
1. Pam mae'n bwysig atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919.
Prif nodweddion a meini prawf y dylid eu hystyried wrth benderfynu a yw adeilad yn werth ei gadw.
Rhesymau pam mae adeiladau a strwythurau traddodiadol yn cael eu cadw.
Cymhariaeth rhwng nodweddion perfformiad adeiladau traddodiadol a rhai'r adeiladwaith modern.
Pwysigrwydd cadw cymaint o strwythur ac elfennau gwreiddiol adeiladau traddodiadol â phosibl wrth atgyweirio a chynnal.
Sut mae atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919 yn cyfrannu at arferion cynaliadwyedd presennol.
2. Pa ddeddfwriaeth ac arweiniad swyddogol sy'n ymwneud ag atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919 sy'n llywio ein penderfyniadau?
Cynlluniau cadwraeth a rhestri statudol o adeiladau hanesyddol a mannau cadwraeth.
Sut mae rheoliadau perthnasol a mesurau rheoli'n ymwneud ag atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919.
Prif dermau sy'n ymwneud ag atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919.
3. Pam mae'n bwysig defnyddio dulliau a deunyddiau adeiladu traddodiadol wrth atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919?
Dulliau a deunyddiau a ddefnyddir i gynnal ac atgyweirio adeilad traddodiadol gyda ffocws arbennig ar galch.
Ystyr termau gan gynnwys ‘Fel-am-fel’, ‘atgyweiriadau gonest’, ‘galladroddoldeb’ ac ‘ymyrraeth leiaf/uchel gadwraeth’.
Astudio achosion ac enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae deunyddiau anghydnaws, dull adeiladu a chyflawni wedi’u defnyddio a'r canlyniadau o hyn.
Rhesymau dros integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladu presennol a newydd.
4. Deall sut i atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919.
Ble i ddod o hyd i wybodaeth ac ymchwil i lywio ein penderfyniadau.
Tystiolaeth o'r strwythur ac elfennau gwreiddiol neu gyfnodau gwahanol o adeilad yn hwyrach.
Pwysigrwydd dadansoddi datblygiadau hanesyddol a newidiadau i adeilad neu gydrannau.
Dulliau a thechnegau a ddefnyddir i ddeall cyflwr adeilad.
Pobl a phroffesiynau sy'n ymwneud â chynllunio a chyflawni atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol cyn-1919.
5. Deall sut i gynnal arferion gweithio diogel yn ystod atgyweirio a chynnal adeiladau traddodiadol (cyn-1919).
Ymchwilio i sefyllfaoedd lle mae'n rhaid ceisio eglurhad i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n ddiogel ac yn effeithiol.
Edrych ar ffyrdd priodol o atal gwaith pan fydd amheuaeth ynghylch y gwaith adeiladu presennol.
Archwilio cyfrifoldebau personol sy'n ymwneud â diogelu gwead adeilad gwreiddiol.
Cyllid ar gyfer yr Hyfforddiant hwn
Mae'r hyfforddiant hwn ar gael yn rhad ac am ddim i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro a'r Rhanbarth diolch i gyllid gan Lywodraeth y DU.