Gwneud Cais Adeilad Rhestredig
Mae adeiladau rhestredig yn adrodd rhan o hanes gorffennol Cymru, boed yn fythynnod di-nod neu'n gestyll mawreddog, ac maent yn cael eu gwarchod i sicrhau bod ein treftadaeth wych yn goroesi er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Mae angen i unrhyw newidiadau a wneir i Adeilad Rhestredig barchu a chadw cymeriad yr adeilad hwnnw, ac felly fel arfer mae angen caniatâd i wneud y newidiadau hynny. Ceir gwybodaeth fanwl ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin ar ffurf Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i ofalu am Adeilad Rhestredig. Ymdrinnir â'r meysydd pwnc canlynol:
- Gwybodaeth am restru
- Pryd mae'n rhaid wrth Ganiatâd Adeilad Rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig
- Amodau Caniatâd Adeilad Rhestredig
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw adeilad rhestredig
Fel arall, gallwch lawrlwytho'r set lawn o Gwestiynau Cyffredin yma.
Er mwyn helpu pobl i wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, mae Canolfan Tywi wedi datblygu cwrs ar-lein o'r enw ‘Gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig: canllaw cam wrth gam ar gyfer gwneud newidiadau i’ch cartref hanesyddol’. Mae'r cwrs wedi bod yn werthfawr iawn i lawer o'r bobl sydd wedi'i gyflawni. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs a gweld sylwadau cyfranogwyr, cliciwch yma.