Ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cynllun Datblygu Gwledigh Cymru 2007-2013 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd y Cynllun Sylfeini mewn Treftadaeth yn rhaglen a ddarparodd hyfforddiant adeiladu treftadaeth ar gyfer 55 o fyfyrwyr ledled Gorllewin Cymru. Fe’u cefnogodd tra’r oeddent yn astudio ar gyfer eu cymhwyster NVQ3 mewn Plastro, Caregwaith neu Waith Saer Treftadaeth a hwythau’n cael eu lleoli gyda Chwmnïau Treftadaeth arbenigol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Cynhaliodd y Cynllun hwn 2 gynhadledd i ymchwilio i Ddyfodol Adeiladu Treftadaeth yng Nghymru a gellir darllen adroddiad y Gynhadledd yma. Fe wnaeth y cynadleddau amlygu’r angen am hyfforddiant parhaus ar gyfer crefftwyr yng Nghymru mewn sgiliau crefftau treftadaeth.
I gael rhagor o wybodaeth bwriwch olwg ar yr astudiaethau achos am fyfyrwyr, neu darllenwch y gwerthusiad o’r prosiect.