Ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cynllun Datblygu Gwledigh Cymru 2007-2013 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cyflawnwyd mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Menter Bro Dinefwr.
Mae Dyffryn Tywi’n cael ei gydnabod yn un o’r tirweddau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Mae’n enwog am ei nodweddion golygfaol fel tirwedd a luniwyd gan ia, dŵr ac ers yr oes gyn-hanesyddol gan ddyn. O fewn y dyffryn ceir etifeddiaeth o geiri, cestyll canoloesol, tirweddau, parcdiroedd a gerddi dyluniedig yn ogystal â’r tirweddau amaethyddol yr ydym yn eu mwynhau heddiw.
Roedd prosiect Tywi Afon yr Oesoedd yn canolbwyntio ar dirwedd y dyffryn rhwng Llangadog a Dryslwyn. Ei nod oedd dathlu a gwarchod y dyffryn nodedig hwn trwy:
- Ddatblygu dealltwriaeth well am y dirwedd
- Cryfhau Cysylltiadau rhwng y gymuned a’r dirwedd
- Datblygu’r sgiliau y mae eu hangen i ofalu am y dirwedd.
Er mwyn cyrraedd y nodau hyn fe rannwyd y prosiect yn 4 prif thema gyda phob un ohonynt yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar y dyffryn.
Archwilio Tywi!
Roedd hwn yn gyfle i bobl archwilio tarddiadau’r dyffryn trwy gyffro archeoleg a daeareg. Fe’i harweiniwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a llyfryn ac mae llyfryn sy’n crynhoi gweithgareddau’r prosiect ar gael i’w lawrlwytho yma.
Darganfod y Tywi
Fe ddatblygodd yr elfen hon o’r prosiect ffordd newydd a chyffrous o ddehongli’r dyffryn a’i dreftadaeth. Fe ddarparodd hyfforddiant mewn adrodd storïau sydd wedi arwain at sefydlu’r ‘Goeden Storïwr’ a chreu’r Gadair Storïwr y gellir ei benthyca gan Fenter Bro Dinefwr; fe wnaeth wisgoedd Celtaidd a Rhufeinig ar gyfer ailgreadau, y gellir eu benthyca o Amgueddfa Caerfyrddin; fe ddarparodd hyfforddiant ar gyfer arweinwyr teithiau cerdded a gallwch fynd ar deithiau Dyffryn Tywi trwy lawrlwytho’r taflenni yma.
Prosiect Tirwedd a Bioamrywiaeth
Gwarchod a gwella nodweddion traddodiadol ar y dirwedd a gwarchod bioamrywiaeth oedd ffocws yr elfen hon o Tywi Afon yr Oesoedd. Mae nodiadau cyfarwyddyd defnyddiol ar warchod rhywogaethau allweddol ar gael i’w lawrlwytho yma. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Y Ganolfan Adeiladu Cynaliadwy Traddodiadol
Roedd yr elfen hon o’r prosiect yn dathlu arddulliau adeiladu lleol, yn cynnig gwybodaeth ac yn darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau adeiladu traddodiadol a dysgu mwy am ddefnyddio technoleg newydd a deunyddiau adnewyddadwy mewn hen adeiladau. Etifeddiaeth allweddol yr elfen hon o’r prosiect fu datblygiad parhaus Canolfan Tywi fel darparwr gwybodaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig ag adeiladau traddodiadol. Sefydlwyd y Cynllun Bwrsariaeth Sylfeini mewn Treftadaeth yn uniongyrchol o ganlyniad i adnabod yr angen am fwy o hyfforddiant mewn sgiliau adeiladu traddodiadol yng Nghymru.